Ymaelodi â’r Urdd / Urdd Membership

Ymaelodi â’r Urdd 2022 – 2023

Cost Os yw eich plentyn yn dymuno ymaelodi â’r Urdd, pris aelodaeth eleni (2022-23) ydy: 

• Aeloadaeth unigol – £10.00 

• £1 i’r rheiny sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg. 

• £25 i deulu o 3 neu fwy. 

Sut i ymaelodi – Rydym yn gofyn i chi ymaelodi eich plentyn ar-lein drwy ddilyn y linc isod a chreu cyfri a phroffil yn Y Porth.

https://www.urdd.cymru/cy/ymuno/

Ar ôl creu cyfri, bydd modd i chi gofrestru ar gyfer aelodaeth yr Urdd, a gellir dychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio neu newid manylion. Os oes gennych gyfrif ers llynedd, bydd modd mewngofnodi ac ymaelodi drwy’r cyfrif hwnnw. 

Bydd bathodyn a cherdyn gyda’r rhif aelodaeth (cadwch y rhif yn ddiogel) i bawb sy’n ymaelodi. 

Gweithgareddau – Rhaid bod yn aelod o’r Urdd i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel yr isod : 

Eisteddfod yr Urdd 

Gwaith celf a chrefft yr Urdd 

CogUrdd 

Cystadleuthau chwaraeon yr Urdd 

Fideo Dyma linc i fideo gan Urdd Gobaith Cymru ynglŷn ag ymaelodi : 

https://youtu.be/n-9_VnWHu-E

Become an Urdd member 2022 – 2023

Cost If your child wishes to become an Urdd member, the membership price this year (2022-23) is: 

• Individual membership – £10.00 

• £1 for those who receive support through a free school meals scheme, school uniform scheme grant or education maintenance allowance. 

• £25 for a family of 3 or more. 

How to register We ask you to register your child online by following the link below and creating an account and profile within Y Porth. https://www.urdd.cymru/cy/ymuno/

After creating an account, you will be able to register for Urdd membership, and you can return to Y Porth at any time to check or change details. If you have an account from last year, it will be possible to log in and join through that account. 

There will be a badge and card with the membership number (keep the number safe) for everyone who joins. 

Activities You must be a member of the Urdd to take part in activities such as below: 

Eisteddfod yr Urdd 

Art and craft work for Eisteddfod yr Urdd 

CogUrdd 

Urdd sports competitions 

Fideo Here is a link to a video from Urdd Gobaith Cymru about becoming a member : 

https://youtu.be/n-9_VnWHu-E

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

pdf icon Ymaelodi-ar-Urdd.pdf
pdf icon Rhestr-Testunau-2023.pdf
pdf icon Syllabus-Saesneg.pdf