Cymorth Hwb Support

Dyma linc i dudlaen ddefnyddiol yn Hwb sy’n cynnwys fideos ynglŷn â defnyddio yr offerynau dysgu o bell sydd ar gael yno. Mae yna adran ar gyfer arweinwyr Ysgol , staff Ysgol ac ar gyfer rhieni. Hyfforddiant i bawb ar b’nawn gwlyb! hwb.gov.wales/dysgu-o-bell/offer-dysgu-o-bell-drwy-hwb/ Here is a link to a useful page on Hwb to support … Read more

Adnoddau iaith – Welsh resources

Gweler adnoddau iaith defnyddiol ar gyfer y plant iau a hyn. Mae’r plant yn hoff iawn o’r tasgau Disgriblio. Please find attached some useful Welsh resources to use at home for both our younger and older pupils. Adnoddau-ir-cartref.pptx Disgriblio.ppt

Gwybodaeth – Information

Annwyl rieni Gobeithio bod pawb yn iawn ar ddechrau wythnos newydd arall. Roeddwn yn falch bod gymaint ohonnoch wedi galw draw i gasglu mwy o becynnau gwaith papur wythnos diwethaf. Gai atgoffa chi i gadw llygad ar Trydar am fwy o syniadau os oes angen. Diolch hefyd i chi am eich adborth. Roeddwn yn falch hefyd ein bod wedi … Read more

Diolch

Diolch o galon i’r staff am baratoi a diweddaru pecynnau gwaith i chi ddoe ar ddechrau Tymor yr Haf i fod! Braf iawn oedd gweld rhai ohonnoch ac yn enwedig y plant, er o bell! Diolch i chi hefyd am eich cyd-weithrediad. Nid yw’r sefyllfa yma yn ddelfrydol o bell ffordd. Gwnewch eich gorau a … Read more

Diweddariad-Update

Annwyl rieni Yn dilyn y gwyliau, bydd cyfle i chi alw draw i gasglu mwy o waith ar gyfer eich plant os y dymunwch. Byddwn yma i chi rhwng 2 a 3 ar b’nawn Llun, Ebrill yr 20fed.  Cofiwch edrych ar Twitter/Ap am syniadau hefyd. Os yw plentyn CA2 angen benthyg ‘Chromebook’, dyma yw eich cyfle hefyd. Rwyf yn … Read more

Cystadleuaeth – Competition

LLYTHYR AT BLANT Y DYFODOL… Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gystadleuaeth ysgrifennu ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ar gyfer plant oed ysgol yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ysgrifenna lythyr, a fydd yn cael ei ddarllen gan blant mewn 100 mlynedd, i ddweud wrthyn nhw sut mae dy fywyd wedi newid ar ôl … Read more

Rhieni a disgyblion CA2

Rhieni a disgyblion CA2 Dwi wedi bod wrthi yn ceisio gosod gwaith ar Hwb ar J2Homework, ond ddim yn siwr os wedi ei wneud yn gywir! Ewch i J2Homework ac mae yna fidio bach i wylio, pwyswch ‘Mynd i’r adran gwaith cartref’ i’w weld ac mae na daflen waith yn y ffolder ‘ffeiliau wedi rhannu’ … Read more

Diweddariad-Update

Annwyl rieni Gobeithio bod plantos Pentrecelyn yn iawn. Diolch i rai ohonoch sydd wedi ymateb ar Trydar – mae o’n wir codi calon. Gweler y llythyr atodol ynglyn a threfniadau newydd ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol. Gwyliau Pasg Nid ydym fel athrawon wedi cael cyfarwyddyd i osod mwy o waith i blant dros Wyliau’r Pasg. … Read more