Gwybodaeth – Information

Annwyl rieni Gobeithio bod pawb yn iawn ar ddechrau wythnos newydd arall. Roeddwn yn falch bod gymaint ohonnoch wedi galw draw i gasglu mwy o becynnau gwaith papur wythnos diwethaf. Gai atgoffa chi i gadw llygad ar Trydar am fwy o syniadau os oes angen. Diolch hefyd i chi am eich adborth. Roeddwn yn falch hefyd ein bod wedi … Read more

Diweddariad-Update

Annwyl rieni Yn dilyn y gwyliau, bydd cyfle i chi alw draw i gasglu mwy o waith ar gyfer eich plant os y dymunwch. Byddwn yma i chi rhwng 2 a 3 ar b’nawn Llun, Ebrill yr 20fed.  Cofiwch edrych ar Twitter/Ap am syniadau hefyd. Os yw plentyn CA2 angen benthyg ‘Chromebook’, dyma yw eich cyfle hefyd. Rwyf yn … Read more

Cystadleuaeth – Competition

LLYTHYR AT BLANT Y DYFODOL… Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gystadleuaeth ysgrifennu ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ar gyfer plant oed ysgol yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ysgrifenna lythyr, a fydd yn cael ei ddarllen gan blant mewn 100 mlynedd, i ddweud wrthyn nhw sut mae dy fywyd wedi newid ar ôl … Read more

Diweddariad-Update

Annwyl rieni Gobeithio bod plantos Pentrecelyn yn iawn. Diolch i rai ohonoch sydd wedi ymateb ar Trydar – mae o’n wir codi calon. Gweler y llythyr atodol ynglyn a threfniadau newydd ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol. Gwyliau Pasg Nid ydym fel athrawon wedi cael cyfarwyddyd i osod mwy o waith i blant dros Wyliau’r Pasg. … Read more

Diweddariad – Update

Annwyl rieni  Yn gyntaf, gobeithio bod pawb yn iawn. Mae hi wedi bod yn od iawn yma yn yr ysgol hebddoch chi yr wythnos yma. Er hyn, mi rydw i yn falch iawn bod ein tîm gwych o staff wedi fy helpu i ofalu am blant rhai o weithwyr allweddol yr ysgol wythnos yma.  Ond, o ddydd Llun yma ymlaen, byddwn wedi cau tan y bydd hi’n ddiogel i bawb adael eu cartrefi eto.  Mi fydd y staff yn ychwanegu at becynnau gwaith eich plant ond plîs byddwch yn amyneddgar a chreadigol.  Gwyliwch allan am unrhyw wybodaeth ar Hwb/J2e (CA2) ac ar yr app (CS).  Mi fyddai innau hefyd yn trydaru syniadau a chysylltiadau defnyddiol i chi hefyd.  Os allwch chi drydaru ambell lun diddorol o’ch plant gyda’r linc @YsgPentrecelyn bydd hynny yn siwr o godi calonnau ni fel staff.  Edrychaf ymlaen i weld pawb yn fuan iawn a mi wnai gadw mewn cysylltiad.  Byddwch ddiogel  Dear parents  Firstly, I hope you are all ok. It has been very surreal here this week without you all. I am very proud of the great staff that have helped me care for some pupils of our key workers here at school this week. However, from this Monday, the school … Read more

Pwysig- Key workers – important

Annwyl rieni Allwch chi adael imi wybod mor fuan a phosib os ydych chi wedi gwneud cais am ofal plant i Sir Ddinbych gan eich bod yn ‘weithiwr allweddol’. Dear parents Can you please inform me asap if you have made a request to Denbighshire for childcare as you are classed as a ‘keyworker’. The situation … Read more

Gwybodaeth – Information

Annwyl rieni Gobeithio bod pawb yn iawn. Cofiwch mi fyddaf yn rhannu unrhyw mwy o wybodaeth unwaith y byddaf yn ei dderbyn. Mae llawer o wybodaeth yn aneglur ar hyn o bryd yn enwedig y trefniadau ar gyfer gweithwyr allweddol. Rydym wedi anfon pecynnau gwaith yn y post i rai sydd yn absennol ac wedi gwneud … Read more

Cau’r Ysgol – School Closure

Annwyl rieni Dim ond nodyn byr i gadarnhau bydd Ysgol Pentrecelyn yn cau am 3:15 dydd Gwener yma, Mawrth 20fed. Felly, dim Clwb Celyn ar ddydd Gwener. Mae ambell i ysgol yn y clwstwr wedi cau yn barod neu yn cau ‘fory. Gobeithio bod hyn o gymorth i rieni mewn amser mor anodd i bawb. Dear parents A note to … Read more